Amdanom Ni

Sêra Moore Williams

Arweinydd cwrs BA Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Dramodydd a chyfarwyddwraig sydd wedi gweithio yn y diwydiant ers mwy na 35 o flynyddoedd. Mae Sêra wedi ysgrifennu oddeutu chwech-ar-hugain o ddramâu, i blant ac oedolion, sydd wedi eu cynhyrchu yn broffesiynol, gan gynnwys Mab, un o ddramâu comisiwn mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. Cafodd ei lwyfannu yn Ne Korea, Hwngari a’r Almaen ers hynny. Mae miloedd o ddisgyblion ysgol TGAU a Lefel A yn gyfarwydd gyda drama Sêra Crash, a hefyd Mwnci ar Dân, sydd ar y cwricwlwm cenedlaethol. Mae Sera wedi gweithio fel cyfarwyddwr i Brith Gof, Theatr y Sherman, Theatr Iolo, Theatr Gwent, a Theatr Clwyd ymysg eraill, yn ogystal â’i chwmni ei hun, Y Gymraes. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Arad Goch am fwy na deng mlynedd. Fel perfformwraig mae hi wedi gweithio yng Nghymru ac wedi teithio gwaith i Dde Korea, Hong Kong, Yr Almaen, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Llydaw, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

Siân Summers

Daw Siân o Lanfairfechan ac mae wedi gweithio fel actor, cyfarwyddwraig a dramodwraig ers bron i drideg mlynedd, gan weithio gyda Theatr Bara Caws, Frân Wen, Arad Goch, a Theatr Genedlaethol Cymru ymysg eraill. Bu’n Gyfarwyddwraig Artistig Theatr Gwynedd, yn Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru ac mae bellach yn gyfrifol am ddysgu ystod o fodiwlau ysgrifennu ac ymarfer drama ar draws maes Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, tra’n parhau i weithio fel awdur, cyfarwyddwraig a darlithwraig llawrydd.

Rhys ap Trefor

Mae Rhys ap Trefor yn hanu o Garndolbenmaen, Gwynedd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae newydd orffen gweithio ar trydydd cyfres o Byw Cewlydd(S4C), buodd hefyd yn ymddangos yn y rhaglenni teledu canlynol: Gwaith Cartref(Fiction Factory/ S4C), Ordinary Lives(Red Productions/ BBC), Torchwood, Pobl y Cwm(BBCCymru/ Wales), Ista’nbwl(Rondo/S4C), Ysbyty Hospital(Boom/S4C), Talcen Caled, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad(S4C), a’r ffilmiau: Cymru Fach(BoomCymru/S4C), Dad(Fiction Factory/ S4C). Buodd hefyd yn chwarae rhan Prys ar Frys, y ditectif lletchwith ar y gyfres gomedi i blant Llan-ar-goll-en, sydd dal i redeg ar CYW. Mae Rhys wedi gweithio yn helaeth gyda Sera Moore Williams ar gynhyrchiadau i Gwmni Theatr Arad Goch fel Crash, Conffeti, Twm a Mati Tat a Llew Lletchwith. Mae ei gredydau theatr eraill yn cynnwys: Harri Parris:The Big Day (Mai Oh Mai Productions); Full Circle, Ruling the Roost (Hijinx Theatre); Dumb (Spectacle Theatre). Yn ddiweddar bu Rhys yn cyfarwyddo ffilm fer ar gyfer S4C mewn cydweithrediad a It’s My Shout a phennod o Pobl y Cwm.

Dr Rhiannon Williams

Cafodd Rhiannon yrfa fel actores yn gweithio ym myd y theatr yng Nghymru, cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i wneud MA mewn Ymarfer Perfformio. Yn dilyn hynny cafodd ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud doethuriaeth ym maes Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd gwaith PhD Rhiannon ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’ yn archwilio pwysigrwydd y capel fel perfformiad i hunaniaeth genedligol y Cymry. Mae Rhiannon yn mwynhau’r her o ymchwilio’n ymarferol, yn bennaf i sut y gall y broses berfformio greu cymuned o bobl.

Matthew Davies

Dechreuodd Matthew ar yrfa fel perfformiwr gyda chwmni theatr Brith Gof ym 1982, wedi iddo gwblhau gradd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bu’n gweithio ym myd Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifanc o 1986 ymlaen, gan symud ymlaen hefyd i ddechrau cyfarwyddo. Ym 1993 fe’i apwyntiwyd yn swyddog addysg yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, tra eto’n parhau ei gysylltiad gyda’r byd theatr a pherfformio wrth ddatblygu gwaith Theatr mewn Amgueddfa. Gyda Lisa Lewis, darparodd Matthew y cwrs cyntaf mewn dehongli byw a pherfformio mewn amgueddfeydd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Matthew radd MA mewn Sgriptio o Brifysgol De Cymru, ac yn 2016 hefyd enillodd Wobr Gruff Jones ar gyfer y dramodydd gorau.

Archwilio’r Gofod

Rydym eisioes wedi gwenud darlleniadau o’r ddrama o flaen cynulleidfa, rhyw led berfformiad gyda sgript mewn llaw, mewn gofod stiwdio, y generic bocs du, yn yr Atriwm, Prifysgol De Cymru. Amlinellwyd y gofod chwarae sgwar(tua 2.5mx2.5m) gyda táp gwyn a rhes o seddi ar bob ochr. Cafodd y gofod ei oleuo’n syml hefyd. Ddaru maint y gofod a natur y sgript greu naws dwys iawn.

Yn ystod y darlleniadau hyn codwyd nifer o gwestiynnau ynglyn a ble yn union mae’r chwarae i fod i gael ei leoli. Yn ein bocs gwag ni, allai o fod yn unrhywle, gyda’r unig gliwiau o ran lleoliad posib yn deillio o’r ddeialog. Roedd Sera yn sicr, reit o’r dechrau, taw mae mewn neuadd goffa y mae’r cymeriadau yn ‘bodoli’ a bod yr elfen yma, neu’r ffaith yma yn hollbwysig i ddeall natur y darn.

Syniad y datblygiad diweddaraf ydi gweld sut all y perfformiad weithio mewn neuadd goffa go iawn. A fydd y lleoliad yn cynnig dimensiwn arall i’r profiad, a fydd yn gwneud mwy o synnwyr a sut bydd hynny’n gweithio?

Dechreuom ni heddiw gan ddarllen y darn fel ag yr oedd, mewn sgwar fach yng nghanol y gofod, gyda ffiniau amlwg i’r chwarae. Yn sicr mi roedd yn teimlo’n wahanol i’w berfformio mewn stiwdio pwrpasol, roedd jyst yr ymwybyddiaeth ein bod yn y safle priodol yn gwneud gwahaniaeth – roedd hi hefyd yn llawer oerach! Dwi wedi defnyddio sawl neuadd o’r fath fel gofod ymarfer dros y blynyddoedd ac mi roedd yr ymarferiad yma yn teimlo yn debyg iawn – achos er bod ni yno, doedd dim wir cysylltiad gyda’r gofod yn ei hanfod, dim ond cragen ydoedd mewn gwirionedd, cyfleustra. A doedd y darn ei hun ddim i weld yn newid dim chwaith, a deud y gwir heb y golau a’r tywyllwch roedd o’n teimlo’n llac iawn. (Wrth gwrs bydde modd creu’r un amgylchiadau yma ag yn y stiwdio, ond i ba reswm? Heblaw am resymau ymarferol a thechnegol, bydde hyn yn ein amddifadu o brofiad hollol wahanol.

Aethom ymlaen wedyn i ddarllen drwy’r darn unwaith yn rhagor, ond y tro yma gan defnyddio’r gofod i gyd. Y llawr, y llwyfan, y drysau, y waliau, y stafelloedd gefn…

Roedd ambell i ran, fel y llwyfan, yn amlygu ei hun yn berffaith i’r darn, ond i mi, y syniad o gael y cymeriadau yn ymlwybro drwy’r gofod, yn eu byd bach eu hunain, yn ei berchentio, oedd yn ddifyr. Roedd yn creu’r effaith o ysbrydion yn gaeth i’w hamgylchfyd, yn ail fyw darnau o’u gorffennol, ac yn chwilio am atebion. Dwi’n gobeithio y byddwn yn archilio mwy mewn i ddefnydd o’r gofod cyflawn yn y dyddiau nesaf, yn ogystal a chodi cwestiynnau ynglyn a sut y medrwn ni fel cwmni fod o wasanaeth i’r gymuned sydd eisioes yn defnyddio’r neuadd o ddydd i ddydd.

Nodwedd

Pethau Mud

     Drama Rhyfel ar gyfer 2019.        

  gan Sera Moore Williams

                             “O Dduw! a raid im’ gofio sawr
                               Y fan lle’r heidiai’r llygod mawr
                               A bysedd glas y pethau mud
                               Ar glic eu gynnau bron i gyd?”

                               Cynan. (Mab y Bwthyn 1921)

Wedi’w ysbrydoli gan lythyrau teuluol o ffosydd y Rhyfel Mawr, dyma waith ar y gweill sydd tra’n llwyr wrth-ryfel yn archwilio sut y mae modd ysgrifennu gyda pharch ac er cof am y rhai fu farw a’r rhai wnaeth oroesi, am yr erchylltra na ellid ei ddychmygu, ac sut y mae dechrau cyfathrebu trwy hynny am gyflwr ein byd ni heddiw. Datblygwyd y testun yn wreiddiol gyda chymorth Theatr Genedlaethol Cymru.

Gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru rydym nawr yn cynnal ail gyfnod o waith er mwyn archwilio ffyrdd o ddatblygu’r testun ar gyfer gofod perthnasol, a cheisio dirnad sut y byddai modd cydweithio gyda defnyddwyr eraill y gofod hwnnw, er mwyn creu digwyddiad theatraidd newydd yn y dyfodol.

Rhwng Ionawr 7-18fed fe fyddwn yn treulio ein prynhawniau yn Neuadd Goffa Tredelerch (Rumney) yn gweithio ar y testun ‘in situ’ ac yn dechrau dod i adnabod yr ardal ac rhai o ddefnydwyr eraill y neuadd.