Sêra Moore Williams
Arweinydd cwrs BA Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Dramodydd a chyfarwyddwraig sydd wedi gweithio yn y diwydiant ers mwy na 35 o flynyddoedd. Mae Sêra wedi ysgrifennu oddeutu chwech-ar-hugain o ddramâu, i blant ac oedolion, sydd wedi eu cynhyrchu yn broffesiynol, gan gynnwys Mab, un o ddramâu comisiwn mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. Cafodd ei lwyfannu yn Ne Korea, Hwngari a’r Almaen ers hynny. Mae miloedd o ddisgyblion ysgol TGAU a Lefel A yn gyfarwydd gyda drama Sêra Crash, a hefyd Mwnci ar Dân, sydd ar y cwricwlwm cenedlaethol. Mae Sera wedi gweithio fel cyfarwyddwr i Brith Gof, Theatr y Sherman, Theatr Iolo, Theatr Gwent, a Theatr Clwyd ymysg eraill, yn ogystal â’i chwmni ei hun, Y Gymraes. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Arad Goch am fwy na deng mlynedd. Fel perfformwraig mae hi wedi gweithio yng Nghymru ac wedi teithio gwaith i Dde Korea, Hong Kong, Yr Almaen, Yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Llydaw, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.
Siân Summers
Daw Siân o Lanfairfechan ac mae wedi gweithio fel actor, cyfarwyddwraig a dramodwraig ers bron i drideg mlynedd, gan weithio gyda Theatr Bara Caws, Frân Wen, Arad Goch, a Theatr Genedlaethol Cymru ymysg eraill. Bu’n Gyfarwyddwraig Artistig Theatr Gwynedd, yn Rheolwr Llenyddol Sherman Cymru ac mae bellach yn gyfrifol am ddysgu ystod o fodiwlau ysgrifennu ac ymarfer drama ar draws maes Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru, tra’n parhau i weithio fel awdur, cyfarwyddwraig a darlithwraig llawrydd.
Rhys ap Trefor
Mae Rhys ap Trefor yn hanu o Garndolbenmaen, Gwynedd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae newydd orffen gweithio ar trydydd cyfres o Byw Cewlydd(S4C), buodd hefyd yn ymddangos yn y rhaglenni teledu canlynol: Gwaith Cartref(Fiction Factory/ S4C), Ordinary Lives(Red Productions/ BBC), Torchwood, Pobl y Cwm(BBCCymru/ Wales), Ista’nbwl(Rondo/S4C), Ysbyty Hospital(Boom/S4C), Talcen Caled, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad(S4C), a’r ffilmiau: Cymru Fach(BoomCymru/S4C), Dad(Fiction Factory/ S4C). Buodd hefyd yn chwarae rhan Prys ar Frys, y ditectif lletchwith ar y gyfres gomedi i blant Llan-ar-goll-en, sydd dal i redeg ar CYW. Mae Rhys wedi gweithio yn helaeth gyda Sera Moore Williams ar gynhyrchiadau i Gwmni Theatr Arad Goch fel Crash, Conffeti, Twm a Mati Tat a Llew Lletchwith. Mae ei gredydau theatr eraill yn cynnwys: Harri Parris:The Big Day (Mai Oh Mai Productions); Full Circle, Ruling the Roost (Hijinx Theatre); Dumb (Spectacle Theatre). Yn ddiweddar bu Rhys yn cyfarwyddo ffilm fer ar gyfer S4C mewn cydweithrediad a It’s My Shout a phennod o Pobl y Cwm.
Dr Rhiannon Williams
Cafodd Rhiannon yrfa fel actores yn gweithio ym myd y theatr yng Nghymru, cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i wneud MA mewn Ymarfer Perfformio. Yn dilyn hynny cafodd ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud doethuriaeth ym maes Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd gwaith PhD Rhiannon ‘Y Capel Cymraeg, Cymdogaeth a Pherfformiad’ yn archwilio pwysigrwydd y capel fel perfformiad i hunaniaeth genedligol y Cymry. Mae Rhiannon yn mwynhau’r her o ymchwilio’n ymarferol, yn bennaf i sut y gall y broses berfformio greu cymuned o bobl.
Matthew Davies
Dechreuodd Matthew ar yrfa fel perfformiwr gyda chwmni theatr Brith Gof ym 1982, wedi iddo gwblhau gradd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bu’n gweithio ym myd Theatr Mewn Addysg a Theatr i Bobl Ifanc o 1986 ymlaen, gan symud ymlaen hefyd i ddechrau cyfarwyddo. Ym 1993 fe’i apwyntiwyd yn swyddog addysg yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, tra eto’n parhau ei gysylltiad gyda’r byd theatr a pherfformio wrth ddatblygu gwaith Theatr mewn Amgueddfa. Gyda Lisa Lewis, darparodd Matthew y cwrs cyntaf mewn dehongli byw a pherfformio mewn amgueddfeydd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae gan Matthew radd MA mewn Sgriptio o Brifysgol De Cymru, ac yn 2016 hefyd enillodd Wobr Gruff Jones ar gyfer y dramodydd gorau.