Roedd o’n dda i gael cwmni Branwen Davies diwedd wythnos diwethaf, a chael cyfle i drafod golygfeydd-ar-waith gyda dramodydd a chyfarwyddwraig oedd yn ymateb i’r testun am y tro cyntaf. ‘Da ni’n gyfarwydd iawn efo’r testun erbyn hyn, ac mae hynny’n gallu bod yn beth da ac yn beth drwg.
Trwy fod wedi gwneud darlleniadau a derbyn adborth ‘da ni’n hyderus bod modd gwneud cynhyrchiad prif ffrwd o’r testun fyddai’n cyfathrebu’n dda, ond … tyda ni ddim yn sicr mae dyna’r trywydd mwya defnyddiol i’n gwaith, er ei fod yn apelio atom ni …
Un o’r pethau ‘da ni wedi ei wneud felly, er mwyn archwilio posibliadau, yw datgymalu y testun (tynn, theatraidd) er mwyn ceisio darganfod os a ble y byddai modd creu lle i bobl eraill, er engraifft defnyddwyr eraill y neuadd y gwyddom amdanynt hyd yma (yn blant a’u mhamau, yn ddawnswyr ac actorion ifanc, yn ddisgyblion sydd ar gyrion addysg prif ffrwd, yn gwmni theatr amatur o oedolion) gyfranu i gynhyrchiad (gan dderbyn y byddai hynny, ac y dylsai hynny newid popeth am ein dealltwriaeth presenol o sut mae’r testun yn cyfathrebu). Rhyngthom ni (ar ein traed yn y gofod) fe wnaethom ni ddychmygu y cynhyrchiad (rhithiol llwyr!) mwyaf anhygoel! Roedd o’n teimlo’n gret i roi pen rhyddid llwyr i’r dychymyg, (ROEDD modd datgymalu). Dwi’n eitha sicr hefyd, beth bynnag fydd penllanw’r prosiect, y bydd cyfran o’r syniadau gawsom ni trwy chware fel hyn yn goroesi.
‘Da ni wedi bod yn pendroni am iaith y cynhyrchiad (os mae prosiect cymunedol yn Rumney wedi ei seilio ar y testun Cymraeg fyddai y cam nesaf) ond byddai syniad gafodd Branwen (wrth ymuno yn y gem!) am ddysgu’r wyddor, neu ganeuon neu weddi Cymraeg i’r plant bach (sy’n cwrdd yn y neuadd pob bore) yn goroesi efallai fel un ymateb i’r cwestiwn am iaith. (Cyfnewid sgiliau, a barn ayyb fyddai’r nod o ddewis gwneud gwaith gyda chymuned ac mae un ohonom wedi hyfforddi i ddysgu Cymraeg i deuluoedd). Mae un aelod o’r staff sy’n gofalu am y plant yn y neuadd yn siarad Cymraeg mae’n debyg er bod teuluoedd y plant ddim.
Diolch Branwen!
Ddoe fe fuo ni’n ddigon ffodus i gael cwmni Sue Holland, sy’n aelod o bwyllgor y neuadd ac sy’n dipyn o hanesydd lleol. Fe roedd o’n wych i glywed ‘chydig o hanes yr adeilad, ac i weld lluniau a dogfennau perthnasol. Fe wnaeth o gyffwrdd fy nghalon i mae ffarmwr lleol, oherwydd ei gariad at ei gymuned a roddod y tir i’r gymuned honno er mwyn adeiladu’r neuadd goffa. Roedd o’n cyffwrdd calon eto i glywed am y gymuned yn talu ceiniog y fricsen i godi yr adeilad. Y gymuned sydd berchen ar yr adeilad, a’r gymuned sy’n gyfrifol am ei gadw.
Wedi oriau o bendroni am gyfeiriad y gwaith a thrafod prosiect cymunedol v cynhyrchiad prif ffrwd teithiol, – roedd cyfarfod Sue yn teimlo’n arwyddocaol. Mae llawer iawn o gysylltiadau newydd gennym ni nawr diolch iddi hi, a’r addewid hael o fwy o gymorth os bydd y gwaith yn digwydd yn y gymuned.
Diolch Sue!
Mewnbwn defnyddiol gan Elgan Rhys heddiw am ei brofiadau o weithio gyda grwpiau cymunedol tra’n creu gwaith gyda cwmni Pluen ac i glywed pa mor hollol hanfodol bwysig i broses y cwmni wrth archwilio themau cychwynol (a thu hwnt i hynny) yw cysylltiadau gyda grwpiau ac unigolion. Anodd dychmygu creu gwaith yn cychwyn o unrhywle arall erbyn hyn medda fo. Ac mae’n broses hir (fel roeddem eisioes wedi ei drafod). Tair blynedd o broses mae’n debyg ar gyfer eu gwaith diweddaraf ac mae’n dal i esblygu. Mae’n ymrwymiad difrifol, yn fuddsoddiad gwahanol iawn i’r buddsoddiad mewn creu a chynhyrchu prif ffrwd …
Diolch Elgan!
Llawer o bethau i feddwl amdanynt cyn y cam (i pa bynnag gyfeiriad) nesaf …