Un o’r pethau cyntaf a’m tarodd wrth gerdded mewn i neuadd goffa Tredelerch yr wythnos diwethaf oedd ei arogl lled-adnabyddus; pren, disinffectant, dwst. Roedd cerdded ar ben ambell hula hoop yn dweud wrthyf fod y neuadd yn un prysur, a’r oerfel yn fy atgoffa fy mod yn bresennol mewn gofod sydd yn cael ei rheoli a’i gynnal gan gymuned. Roedd y profiadau synhwyrus yma’n fyw yn fy nghorff heb fod gair yn cael ei yngan. Gall bod mewn safle penodol apelio at yr holl synhwyrau a chreu haenau o ystyr, ac felly mae gweithio ar destun theatraidd rhywle fel hyn a’r potensial i ni greu profiad ysol i berfformwyr a chynulleidfa.

Mae hyn yn gyffroes iawn, ac yn cynnig llawer iawn i ni fel gwneuthurwyr theatr i gnoi cul arno. Beth mae bod mewn neuadd goffa yn perfformio testun am ryfel, a neuadd goffa mewn pentref penodol sydd â chymuned benodol yn ei ddefnyddio, yn cynnig i’n testun? Beth all ein testun, a’n presenoldeb ni, gynnig i’r neuadd a’i gymuned? Sut all cyd-weithio rhwng y ddau fyd digwydd mewn modd ystyrlon? Mae’r cwestiynau fel canghennau’n coeden, sydd yn gyson egino ar fwy o geinciau a brigau o gwestiynau eraill. Mae ein hatebion yn newid, ond dyna yw diben ymchwil ymarferol yn fy nhyb i; rhoi cyfle i adnabod ehangder y cwestiynau a haenau, ac annog trafodaeth ohonynt, mewn sawl ffurf.

Efallai y daw rhywfaint o ffrwyth i’n coeden erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Gobeithio y byddaf i wedi stopio defnyddio metaffor coeden erbyn hynny hefyd.

Rhiannon