Wrth gyrraedd y Neuadd Goffa yn Nhredelerch mae pensaerniaeth yr adeilad yn creu argraff ar yr ymwelydd. Mae’n adaeilad bric coch gyda nodweddion sy’n ailgreu teimlad o’r canol oesoedd ac yn awgrymu dylanwad y symudiad “Arts and Crafts”. Mae twr castellog castellog a ffenestri lliw mewn siap croes sy’n cael eu hatseinio yn y gwaith pren tu fewn. Mae’r llun cysylltiedig gyda’r cofnod yma wedi’i dynnu trwy waith pren sydd i’w ganfod tu fewn y twr yn edrych lawr arnon ni’n trafod yn y neuadd tu fewn.
Cafodd yr adeilad ei agor ym 1923 diwedd cyfnod dylanwad y symudiad “Arts and Crafts”. Mae ffeithiau diddorol wedi’i nodi mewn dogfen gweithredoedd y ymddiriedolaeth sydd a gofal am y neuadd. Rhoddwyd y tir gan dyn o’r enw Thomas Batten o ‘Church Farm’ “… in consideration of the natural love and affection which he holds to towards the parishoners of the parish of Rumney”. Roedd Sue Holland, yn o ymddiriedolwyr, wedi bod yn caredig i ddod i siarad gyda ni fel grwp a caniatau i ni weld y ddogfen yma ac hefyd rhannu ei gwybodaeth am y neuadd: mae’n debyg bod pobl y plwyf wedi cyfrannu ceiniog am bob bric er mwyn codi arian ar gyfer y neuadd a’r cofeb tu allan gyda enwau rhai oedd wedi colli bywyd yn y rhyfeloedd mawr y ganrif ddiwethaf. Mae cannoedd dal yn mynychu’r gwasanaeth coffa bob blwyddyn.
Wrth ysgrifennu hyn nawr dw i’n meddwl am ein perfformiadau / darlleniadau mewn stiwdio mewn ffordd gwahanol. Mae stiwdio yn lle mwy fforensig, er gwaetha mor bwerus o emosiynol yw’r gwaith, ac ymarfer a rhedeg y gwaith mewn gofod sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol i gofio am y rhai oedd heb ddychwelyd o ryfel mewn cymuned sy’n ymgasglu yn flynyddol i gynnal gwasanaeth yn sicr yn newid agwedd perfformiwr ac yn dylanwadu ar y gwaith.
Roedd y perfformiad yn y stiwdio wedi’i gyfyngu i hirsgwar oedd wedi’i farcio mewn tâp gwyn ar lawr du o fewn gofod du. Roedd byd y perfformiad yn y dychymyg i gyd ond yn y neuadd mae rhywun yn perfformio gyda’r lle sydd a cysylltiad uniongyrchol gyda lleoliadau a themau y gwaith ysgrifennedig: mae’r cymeriadau cyfoes yn ymweld a’r neuadd a pob dim yn digwydd yn y neuadd er yn teithio i lefydd eraill yn nychymyg un o’r cymeriadau. Mae’r Milwr a Vesta (cymeriad o’r music-hall) yn perthyn i gyfnod ychydig cyn bod yr neuadd wedi’i adeiladu ond dim ond ychydig o flynyddoedd cyn hynny ac felly yn perthyn i’r lle: Vesta bia’r llwyfan yno!
Yn lle dylanwad y symudiad ‘Arts and Crafts’ daeth Moderniaeth i frig yn y 1920au. Mae ‘Pethau Mud’ yn perthyn mwy i’r traddodiad yma oherwydd arddull yr ysgrifennu – yn ddarniog cymysgedd o lythyrol gwreiddiol, stori milwr cyfoes, caneuon a propaganda y Rhyfel Fawr. Diddorol yw’r tyndra rhwng arddull y gwaith theatr a naws pensaerniol y neuadd.
